Overview
Lecturer in Politics – Teaching and Scholarship – Law Building, Cardiff
School of Law and Politics
The School of Law and Politics is seeking to appoint an outstanding candidate to join our internationally renowned Department of Politics and International Relations as a Lecturer in Politics at Grade 7 with expertise in British politics and governance and evidence of experience in delivering innovative pedagogies such as problem-based learning, partnership pedagogies, community engaged learning, simulations, and authentic assessment.
Appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale, unless in exceptional circumstances.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Darlithydd Gwleidyddiaeth – Addysgu ac Ysgoloriaeth
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth eisiau penodi ymgeisydd rhagorol i ymuno â’n Hadran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, sydd ag enw da yn rhyngwladol, yn Ddarlithydd Gwleidyddiaeth (Gradd 7). Rydym yn chwilio am rywun ag arbenigedd mewn gwleidyddiaeth a llywodraethu Prydain a thystiolaeth o brofiad o gyflwyno addysgegau arloesol megis dysgu seiliedig ar broblemau, addysgegau partneriaeth, dysgu sy’n ymgysylltu â’r gymuned, efelychiadau ac asesu dilys.
Rydym yn rhagweld y bydd yr ymgeisydd yn chwarae rhan ganolog wrth ddatblygu, cyflwyno a gwerthuso modiwlau sy’n cynnwys addysgeg dysgu sy’n ymgysylltu â’r gymuned, efelychiadau a dulliau tebyg eraill. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ymgeiswyr y mae eu harbenigedd yn estyn ac yn ategu’r gallu presennol yn yr adran.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus broffil ysgoloriaeth ffyniannus ac sy’n gymesur â sefyllfa ei yrfa. Disgwylir iddo gyfrannu at weithgareddau sy’n cyfrannu at gymuned ysgolheictod yr Ysgol.
Mae’r Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn rhan ddeinamig a chynyddol o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ryngddisgyblaethol. Rydym yn gymuned amryfath ac amrywiol yn ddeallusol, gyda chryfderau sefydlog a gydnabyddir yn rhyngwladol sydd wedi’u sefydlu mewn theori gwleidyddiaeth, gwleidyddiaeth Cymru a datganoli; hanes gwleidyddiaeth Prydain; a gwleidyddiaeth Ewrop a’r DU a pholisi cyhoeddus. Ar ben hynny, mae yn rhan o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn cynnig cyfleoedd i arloesi ar draws ffiniau disgyblaethol mewn addysgu ac ysgolheictod. Cefnogir gweithgareddau ysgoloriaeth yn yr Ysgol gan y Ganolfan Addysgeg Addysg Wleidyddol a Chyfreithiol (PeoPLE), a gynlluniwyd i hyrwyddo a chefnogi ysgolheictod dysgu ac addysgu ac ymchwil addysgeg ym meysydd y gyfraith, gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol. Mae’r Ganolfan wedi ymroi i ddull myfyriol sy’n wybodus am addysgeg, gan bwysleisio pwysigrwydd hyn i’n gwaith addysgu a dysgu ac i’n gwaith fel cymuned academaidd.
Yn rhan o’r broses o ail-ddilysu ein rhaglen radd israddedig, byddwn yn datblygu prosiectau copa arloesol gwerth 40 credyd yn rhan o’n rhaglen astudio’r flwyddyn olaf, o flwyddyn academaidd 2027–28. Ym maes gwleidyddiaeth bydd hyn yn cynnwys datblygu a chyflwyno modiwlau sy’n canolbwyntio ar ddysgu ar sail problemau, addysgeg partneriaeth, addysgeg dysgu sy’n ymgysylltu â’r gymuned, efelychiadau ac asesu dilys. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus chwarae rhan allweddol yn natblygiad y modiwlau hyn a’u rhoi ar waith.
Disgwylir i ymgeiswyr ymhelaethu ar arbenigedd yn y meysydd eang hyn a llunio proffil yr Adran ymhellach.
I gael rhagor o wybodaeth am yr Adran a’i gwaith, cysylltwch â Dr Jon Kirkup, Pennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, trwy e-bostio kirkupjb@caerdydd.ac.uk
Gwefan: https://www.cardiff.ac.uk/cy/law-politics
Mae’r swydd hon yn amser llawn a phen agored, i ddechrau yn semester cyntaf neu ail flwyddyn academaidd 2026–2027.
Cyflog: £51,753 – £56,535 y flwyddyn (Gradd 7)
Ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol.
Mae cyfweliadau wedi’u cynllunio ar gyfer 13 Awst. Gofynnwn yn garedig i ymgeiswyr gadw’r dyddiad hwn ar gael, gan y byddai’n bosibl na fydd dyddiadau cyfweliad amgen ar gael.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 24 Gorffennaf 2026
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 7 Awst 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ogystal â chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu’r Brifysgol, fel y rhai sy’n uniaethu fel LHDT+, o gefndiroedd du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol neu’r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogai i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
IMPORTANT: Before applying for this role, please make sure you have the right to work in the country where the role is based. Unless it clearly stipulates within in the job advert above that the hiring company is looking to or able to sponsor applicants it is deemed that the hiring employer will only consider applications from those able to comply with and work in the country where the role is based.













